Deli de Luca is a Norwegian convenience store and delicatessen chain founded in 2003 by Adriano Capoferro and four other founding partners (Thor Johansen, Geir Syversen, Terje Bergh and Vesna Milkovic). [1 ] There are 22 stores in Oslo, [2…
Gwybodaeth am sicrhau diwydrwydd dyladwy wrth wneud datganiadau tollau.
Diwydrwydd dyladwy wrth wneud datganiadau tollauEich cyfrifoldebau fel masnachwr tollau Cyn i chi benderfynu cymryd rhan mewn cadwyn gyflenwi, gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth yw eich cyfrifoldebau o ran y tollau. Dylech gymryd y camau angenrheidiol i sicrhau nad yw trafodion eich cwmni yn arwain at weithgarwch twyllodrus. Chi sy’n gyfrifol am wybod pa reolau sy’n berthnasol i’r gwaith rydych chi’n ei wneud a pha dollau allai fod yn daladwy. Os nad ydych yn cymryd gofal priodol, gallech gael eich hun mewn sefyllfa lle y byddwch yn agored i dollau tramor ychwanegol a dyledion TAW mewnforio oherwydd camddatganiadau a wnaed gennych chi, neu gan unrhyw un sy’n eich cynrychioli ar eich datganiadau tollau. Penodi cynrychiolydd tollau Cewch benodi cynrychiolydd tollau i weithio ar eich rhan. Mae cynrychiolwyr yn cyflawni gweithgareddau fel:
brocer tollau
hwylusydd anfon nwyddau, a elwir weithiau’n asiant cludo nwyddau neu’n asiant tollau
darparwr logisteg
cludwr cyflym
Os ydych chi’n dewis defnyddio cynrychiolydd tollau mewn unrhyw drafodyn, bydd angen i chi hefyd benderfynu sut y bydd yn eich cynrychioli. Gallwch ddysgu rhagor am gael rhywun i ymdrin â’r tollau ar eich rhan (yn agor tudalen Saesneg). Pan fydd CThEF yn archwilio diwydrwydd y cynrychiolydd tollau, byddwn yn ystyried y canlynol:
pa dystiolaeth sydd ar gael o’r archwiliadau masnachol a gyflawnwyd
pa ymatebion a gafwyd
a oedd yr archwiliadau’n ddigonol
sut yr ymatebodd y cynrychiolydd i’r canlyniadau
Byddwn hefyd yn archwilio’r canlynol:
y math o gynrychiolaeth a ddefnyddir
pa awdurdod a roddwyd gan y person a oedd yn cael ei gynrychioli
pa gyfarwyddiadau a gafwyd i baratoi’r datganiadau
Drwy arfer diwydrwydd dyladwy a chynnal asesiadau risg, byddwch yn helpu i wneud yn siŵr bod eich busnes yn cael ei reoli’n effeithiol. Byddwch yn cymryd camau i osgoi cael eich dal mewn twyll yn ymwneud â’r gadwyn gyflenwi. Gwybodaeth a dogfennau Eich cyfrifoldeb chi yw cael digon o wybodaeth ysgrifenedig er mwyn i chi fod yn dawel eich meddwl am y canlynol:
cywirdeb neu gyflawnder yr wybodaeth a’r datganiadau sy’n ofynnol i lunio’r datganiad tollau
y dogfennau sydd ynghlwm wrth y datganiad
bod y gweithrediadau’n cydymffurfio â’r rheolau sydd mewn grym
Sut i ganfod twyll posibl yn y gadwyn gyflenwi O ran y sawl yr ydych yn delio â nhw, dylech fod yn amheus ohonynt os byddant yn rhannu un o’r nodweddion canlynol:
cwmnïau sydd newydd eu sefydlu neu sydd wedi’u hymgorffori’n ddiweddar sydd heb hanes ariannol na hanes masnachu
cwmnïau sy’n newid eu math o fusnes i sector hollol wahanol
cysylltiadau sydd heb lawer o wybodaeth am y farchnad neu’r cynnyrch
sefydliadau sy’n cysylltu â chi’n ddigymell ac sy’n cynnig elw hawdd ar swmp mawr o eitemau neu eitemau uchel eu gwerth ac heb unrhyw risg amlwg
cyflenwyr sy’n honni drwy’r amser eu bod yn gwerthu stoc cwmnïau sydd wedi mynd i’r wal neu hen stoc
cyfarwyddiadau i wneud taliadau i drydydd partïon neu i gyfrifon tramor
cyfarwyddiadau i wneud taliadau arian parod yn unig
cyfarwyddiadau i wneud cyfandaliadau mawr ar gyfer mwy nag un anfoneb
unigolion sydd â hanes blaenorol o fasnachu cyfanwerthol mewn nwyddau ‘gwerth uchel, nifer isel’ fel cydrannau cyfrifiaduron a ffonau symudol
symiau gwerthu mor isel sy’n gwneud i chi amau a ydynt yn fasnachol hyfyw
benthyciad heb ei warantu gyda chyfraddau llog a/neu delerau afrealistig
cyfarwyddiadau i dalu llai na’r pris llawn (ac yn aml, hyd yn oed yn llai na’r TAW a anfonebwyd) i’r cyflenwr
cwmnïau sefydledig ond a brynwyd yn ddiweddar gan berchnogion newydd nad oes ganddynt gysylltiad blaenorol â’ch sector
cwmnïau newydd a reolir gan unigolion heb unrhyw wybodaeth flaenorol am y cynnyrch, sy’n cyflogi arbenigwyr o’r sector
endidau sy’n masnachu o adeiladau preswyl neu adeiladau/swyddfeydd wedi’u gwasanaethu ar les tymor byr
masnachwr neu gyfarwyddwr na ellir cysylltu ag ef yn uniongyrchol, sydd â chynrychiolydd penodedig yn y DU
cwmnïau sy’n ymddangos yn amharod i ddangos eu cyfleusterau gweithgynhyrchu i chi neu i drefnu cyfarfod wyneb yn wyneb â chi
contractau rhwng partïon y credir nad oes cysylltiad rhyngddynt ond sy’n defnyddio fformatau sy’n union yr un fath
Nid yw’r rhestr yn gynhwysfawr. Mae’n bosibl y byddwch chi’n sylwi ar arwyddion eraill. Eich cyfrifoldebau fel asiant tollau Mae asiantau tollau yn chwarae rhan bwysig o ran helpu masnachwyr i gyflawni eu cyfrifoldebau tollau. Os ydych chi’n gweithredu fel asiant tollau, dylech wneud y canlynol:
cytuno’n ysgrifenedig eich bod yn cynrychioli masnachwr mewn capasiti uniongyrchol neu anuniongyrchol
cadw mewn cysylltiad â’ch masnachwr, a sicrhau eich bod yn cael gwybod am unrhyw newidiadau i’w fusnes
cadw o fewn amodau eich awdurdodiad pan fyddwch yn defnyddio prosesau hyrwyddo tollau
cytuno â’ch masnachwr sut bydd y tollau mewnforio perthnasol yn cael eu talu i CThEF, a sicrhau bod digon o arian neu warannau ar gael i dalu unrhyw dollau mewnforio sy’n ddyledus (os ydych chi’n defnyddio cyfrif gohirio rhywun arall, mae’n rhaid cyflwyno awdurdodiad ysgrifenedig i CThEF gan ddeiliad y cyfrif gohirio)
cytuno â’ch masnachwr sut y rhoddir cyfrif i CThEF am y TAW mewnforio sy’n ddyledus, gan sicrhau mai dim ond dan gyfarwyddyd eich masnachwr y dylech chi ddefnyddio’r drefn gyfrifyddu gohirio TAW
Sefydliad yn y DU Os ydych chi’n cynrychioli cwsmer yn uniongyrchol, mae angen i chi wirio a yw’r busnes yn sefydledig yn y DU (yn agor tudalen Saesneg). Os ydych chi’n cynrychioli cwsmer yn uniongyrchol ac yn defnyddio eich awdurdodiad ar gyfer prosesau mewnforio symlach, dylech sicrhau bod y busnes yn sefydledig yn y DU a’i fod yn mewnforio nwyddau i Brydain Fawr (Cymru, Lloegr, yr Alban). Os nad yw busnes yn sefydledig yn y DU, gallwch chi ddim ond ei gynrychioli mewn capasiti anuniongyrchol, sy’n golygu y byddwch yn atebol ar y cyd. Archwiliadau diwydrwydd dyladwy ar eich masnachwr Mae CThEF yn disgwyl i asiantau tollau gynnal gwiriadau ar fasnachwr, er enghraifft, i ddangos ei allu i dalu dyledion tollau sy’n codi wrth fewnforio mathau penodol o nwyddau. Gall y gwiriadau hyn gynnwys y canlynol:
gwirio ble mae’r busnes wedi’i gofrestru
dangos bod gan y busnes ei gyfrifon banc ei hun
darparu set o gyfrifon ariannol blynyddol, gan gynnwys cyfrifon masnachu a mantolenni
dangos solfedd ariannol neu deilyngdod credyd, gan gynnwys a yw cwmni’n destun datodiad neu yn nwylo’r gweinyddwr
dangos nad ydynt yn destun achos methdaliad neu orchymyn dyfarniad llys sirol (CCJ) am ddyledion heb eu talu
sicrhau bod gan eich cwsmer yr ardystiadau a’r trwyddedau priodol mewn grym cyn i’r nwyddau gael eu mewnforio, yn dibynnu ar y mathau o nwyddau yr ydynt
sicrhau bod eich masnachwr wedi cymryd y camau angenrheidiol i wneud yn siŵr nad yw ei gadwyn gyflenwi yn rhan o weithgarwch twyllodrus
Nid yw’r rhestr yn gynhwysfawr. Mae’n bosibl y byddwch yn dewis cynnal gwiriadau eraill. Defnyddio eich awdurdodiad ar gyfer prosesau symlach Mae CThEF yn disgwyl i asiantau tollau gynnal archwiliadau diwydrwydd dyladwy wrth ddefnyddio eu hawdurdodiad prosesau symlach. Dylech hefyd wneud y canlynol:
cael caniatâd ysgrifenedig os ydych chi’n defnyddio cyfrif gohirio tollau eich masnachwr (mae’n rhaid i’ch masnachwr gyflwyno ei awdurdodiad ysgrifenedig i CThEF cyn i chi ddechrau gweithredu ar ei ran)
cymryd camau rhesymol i sicrhau bod y lefel gohirio yn cael ei chynnal i dalu pob dyled sy’n codi
gwirio a yw’r nwyddau sy’n cael eu mewnforio yn nwyddau a reolir ac a ydynt yn gymwys ar gyfer prosesau symlach (er enghraifft, nwyddau ecseis a chyffuriau a reolir)
Nid yw’r rhestr yn gynhwysfawr. Mae’n bosibl y byddwch yn dewis cynnal gwiriadau eraill. Dylech gysylltu â CThEF os credwch eich bod yn cynrychioli masnachwr a allai fod yn ymddwyn yn dwyllodrus neu os nad yw’n cydymffurfio â’r rheolau yn eich barn chi. Os ydych chi’n defnyddio gweithdrefn rhyddhad tollau neu ohirio tollau Os ydych chi’n bwriadu gwneud datganiad yn hawlio rhyddhad Tollau Tramor neu TAW mewnforio, neu’r ddau, naill ai’n bersonol neu drwy eich cynrychiolydd, mae gennych gyfrifoldebau penodol. Dylech hefyd wirio eich bod:
yn deall y rhyddhad rydych yn bwriadu ei hawlio
yn gallu cydymffurfio â’r amodau a’r rhwymedigaethau ar gyfer y rhyddhad
Os ydych chi’n gynrychiolydd tollau, rhaid i chi wneud yn siŵr bod eich cleient yn deall gofynion y drefn. Sut i leihau’r risg o osgoi treth Elfen hanfodol o’ch trefniadau diwydrwydd dyladwy yw cyflawni’r gwiriadau cywir er mwyn i chi allu sicrhau mai’r person rydych chi’n delio ag ef yw’r person y mae’n honni ei fod. Bydd hyn yn helpu i’ch diogelu rhag cymryd rhan mewn osgoi treth. Gwiriwch a yw cwsmeriaid a chyflenwyr newydd, neu ddarpar gwsmeriaid a darpar gyflenwyr, wedi’u cofrestru at ddibenion TAW Gallwch wirio a yw cwsmeriaid a chyflenwyr newydd, neu ddarpar gwsmeriaid a darpar gyflenwyr, wedi’u cofrestru at ddibenion TAW yn y DU ar hyn o bryd drwy wirio eu rhif TAW. Defnyddiwch y System Cyfnewid Gwybodaeth TAW (VIES) (yn agor tudalen Saesneg) ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd i gadarnhau a yw:
cwsmeriaid neu gyflenwyr wedi cofrestru at ddibenion TAW mewn aelod-wladwriaeth yn yr UE
busnes sydd wedi cofrestru at ddibenion TAW yn y DU yn masnachu o dan delerau fframwaith Windsor
Fodd bynnag, cofiwch er y gallai’r gwiriad hwn ddilysu’r manylion cofrestru TAW, nid yw hyn yn gwarantu statws eich cyflenwyr a’ch cwsmeriaid. Dylech barhau i wneud eich ymholiadau eich hun cyn gwneud unrhyw drafodion. Dilysu rhif EORI Mae’n rhaid i chi gael rhif EORI os ydych chi’n cynnal gweithgareddau sy’n gysylltiedig â thollau gyda busnesau y tu allan i’r DU. Gallwch ddefnyddio’r system olrhain EORI i ddilysu rhifau EORI sy’n dechrau gyda GB. Fodd bynnag, mae’n bosibl bod deiliad y rhif EORI wedi dewis peidio â chyhoeddi ei fanylion ar-lein. Felly, ar gyfer rhai rhifau EORI, y cyfan y gall y system ei wneud yw cadarnhau bod y rhif yn ddilys. Ni fydd yn dangos i bwy y mae’r rhif wedi’i neilltuo. Golyga hyn na allwch warantu bod y rhif EORI yn perthyn i’ch cyflenwyr a’ch cwsmeriaid. Dylech barhau i wneud eich ymholiadau eich hun cyn gwneud unrhyw drafodion. Rhoi gwybod am achosion o osgoi treth Gallwch roi gwybod i CThEF os ydych chi’n credu bod rhywun neu rywrai yn osgoi talu treth yn anghyfreithlon drwy wneud y canlynol:
In the unfolding of the social teaching of the Church, it is certainly the reference to St Francis of Assisi that makes the difference in content between the ecological approaches of the Popes St.
Projekční činnost pro výrobu rozvaděčů, strojů, technologických linek, MaR vzduchotechniky a vytápění, zakázková výroba rozvaděčů, elektroinstalační práce
Najděte nejpopulárnější skladby od interpreta Delio, podívejte se na videa, podívejte se na termíny turné a kupte si vstupenky na koncerty interpreta Delio.